Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Fideogynhadledd drwy Zoom

Dyddiad: Dydd Llun, 7 Chwefror 2022

Amser: 14.00 - 14.46
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
12613


O bell

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Jack Sargeant AS (Cadeirydd)

Luke Fletcher AS

Joel James AS

Buffy Williams AS

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

Gareth Price (Clerc)

Mared Llwyd (Ail Glerc)

Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc)

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Datganodd Joel James ei fod yn aelod o BASC, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain, a allai fod yn berthnasol i dair deiseb yn ystod y cyfarfod.

</AI1>

<AI2>

2       Cafodd y sesiwn dystiolaeth ar gyfer P-06-1207 Dechreuwch gyfeirio at ddinasoedd a threfi Cymru yn ôl eu henwau Cymraeg ei gohirio tan 7 Mawrth

Gohiriwyd y sesiwn dystiolaeth tan 7 Mawrth.

 

</AI2>

<AI3>

3       Deisebau newydd

</AI3>

<AI4>

3.1   P-06-1231 Dylid cyflwyno arosfannau bysiau mwy gwyrdd, a mwy 'cyfeillgar i wenyn' ledled Cymru

Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn ystyried mentrau seilwaith gwyrdd yn flaenoriaeth ac y dylai Asesiadau Seilwaith Gwyrdd Awdurdodau Lleol ysgogi’r camau nesaf yn lleol. Felly, cytunodd i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

</AI4>

<AI5>

3.2   P-06-1234 Ni ddylid cyfyngu ffordd newydd Blaenau’r Cymoedd i 50 mya

Nododd y Pwyllgor y bu’r ffordd yn destun gwaith craffu helaeth, gan gynnwys ymchwiliad cyhoeddus, a’i bod wedi’i dylunio a’i hadeiladu i weithredu gyda therfyn cyflymder uchaf o 50mya. Gan ei bod bellach ar agor, dylai’r ffordd ddeuol fod yn fwy diogel na’r hen ffordd sengl tair lôn, felly cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

</AI5>

<AI6>

3.3   P-06-1239 Canslo Arholiadau TGAU yng Nghymru

Nododd y Pwyllgor y bu’r Llywodraeth yn glir ei bod yn bwriadu i arholiadau fynd yn eu blaen eleni, ond mae trefniadau wrth gefn os nad yw sefyllfa iechyd y cyhoedd yn golygu bod modd i’r arholiadau fynd yn eu blaen. Mae’r Pwyllgor yn cydnabod y straen y mae pobl ifanc yn ei wynebu yn ystod y cyfnod hwn, ond dywedodd ei bod yn anodd gweld pa gamau pellach y gall eu cymryd ynghylch y ddeiseb. Cytunodd i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

</AI6>

<AI7>

3.4   P-06-1241 Llywodraeth Cymru i gwrdd â chynulleidfa ehangach o ofalwyr di-dâl.

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Cyfarfu â’r deisebydd mewn digwyddiad bwrdd crwn yn 2021.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i dynnu sylw Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y ddeiseb, a gweld a fydd lle yn y dyfodol i'r deisebydd gymryd rhan mewn unrhyw ymchwiliadau neu sesiynau casglu tystiolaeth ar y mater.

 

</AI7>

<AI8>

3.5   P-06-1242 Gwella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru

Cytunodd y Pwyllgor i:

 

 

</AI8>

<AI9>

3.6   P-06-1244 Er cof am Aberfan, dylid ailenwi Ysbyty George Thomas

Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n adnabod y deisebydd.

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.

 

Pan ddaw’r ymateb gan y bwrdd iechyd i law, bydd y Pwyllgor yn ei anfon ymlaen at y deisebydd ac yn cau’r ddeiseb. 

 

</AI9>

<AI10>

3.7   P-06-1245 Cynrychiolaeth amrywiol a chyfartal yn y Senedd

Cytunodd y Pwyllgor i anfon y ddeiseb at y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd i’w thrafod yn ei raglen waith, diolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

</AI10>

<AI11>

4       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI11>

<AI12>

4.1   P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu

Nododd y Pwyllgor fod y Llywodraeth wedi cadarnhau y bydd yn cynnal adolygiad annibynnol o’r adroddiadau Adran 19. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i longyfarch y deisebydd am hyn ac am ganlyniadau cadarnhaol eraill y gwaith deisebu, gan gynnwys rhoi mwy o ystyriaeth i’r effeithiau ar iechyd meddwl wrth fuddsoddi yn y dyfodol i liniaru llifogydd, a chaeodd y ddeiseb.

 

</AI12>

<AI13>

4.2   P-05-1097 Dylid gwahardd cewyll adar hela

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain.

 

Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd ynghylch ymgynghori â rhanddeiliaid pan fydd yn bwrw ymlaen â’r adolygiad o’r Cod, er na all roi amserlen benodol ar hyn o bryd oherwydd effaith ffliw’r adar, Covid a Brexit. Yng ngoleuni y sicrwydd hwb gan y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

</AI13>

<AI14>

4.3   P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011

Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd.

Cytunodd y Pwyllgor i gadw'r ddeiseb ar agor wrth aros am y diweddariad nesaf gan y Gweinidog.

 

</AI14>

<AI15>

4.4   P-06-1201 Gwahardd saethu rhywogaethau adar sydd mewn perygl difrifol a rhoi’r diogelwch sydd ei angen mor daer arnynt!

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain.

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog yn gofyn i Lywodraeth Cymru:

 

 

 

</AI15>

<AI16>

4.5   P-06-1202 Dylid gwahardd lladd cywion diwrnod oed yng Nghymru

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog i:

 

Cytunodd hefyd i gau'r ddeiseb ar y sail honno.

 

</AI16>

<AI17>

4.6   P-06-1254 Dylid mynnu bod pob darluniad o’n draig yn cynnwys pidyn

Caeodd y Pwyllgor y ddeiseb.

 

</AI17>

<AI18>

4.7   P-06-1246 Cael gwared ar y terfyn niferoedd ar gyfer cynulliadau awyr agored a chaniatáu i ddigwyddiadau cymunedol barhau

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a gafwyd gan y deisebydd a chytunwyd i gau’r ddeiseb, gan nad oes unrhyw gamau pellach i’w cymryd wrth i’r rheoliadau gael eu llacio.

 

</AI18>

<AI19>

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6.

Derbyniwyd y cynnig.

</AI19>

<AI20>

6       Trafod y dystiolaeth - P-06-1207 Dechreuwch gyfeirio at ddinasoedd a threfi Cymru yn ôl eu henwau Cymraeg

Gohiriwyd yr eitem tan 7 Mawrth.

</AI20>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>